Amdanom ni
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen annibynnol gyda dros 40 mlynedd o brofiad o gefnogi dioddefwyr troseddau a digwyddiadau trawmatig yng Nghymru a Lloegr.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ariannu Cymorth i Ddioddefwyr i redeg Canolfan Cymorth Casineb Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth ac adrodd ledled Cymru i ddioddefwyr a thystion Troseddau Casineb. Mae gennym staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig a chefnogwyr gwirfoddol ledled Cymru fel y bydd y cymorth bob amser yn lleol i chi.
Cael cymorth
Mae ein cymorth a'n cefnogaeth yn rhad ac am ddim, yn annibynnol ac yn gyfrinachol ac nid oes angen i chi fod wedi adrodd unrhyw beth i'r heddlu.
Bydd y ffordd rydym yn eich cefnogi yn cael ei harwain gennych chi. Gallwn helpu yn y ffyrdd canlynol:
Cymorth Emosiynol
Mae ein staff a'n cefnogwyr gwirfoddol wedi'u hyfforddi i wrando, rhoi gwybodaeth a chynnig adborth. Gallant eich helpu i wneud synnwyr o'r hyn rydych wedi bod drwyddo, trafod eich opsiynau a'ch helpu i deimlo fel eich bod yn cael eich bywyd dan reolaeth eto. Mae siarad â ni yn rhoi cyfle i chi drafod pethau a chael rhyddhad o brofiadau trallodus.
Gallwn ddarparu lle diogel, niwtral i chi leisio'ch ofnau, eich pryderon a'ch emosiynau. Mae hyn yn helpu llawer o bobl i ymdopi a symud ymlaen ar ôl trosedd.
"Rydych chi wedi bod yn hynod o gynorthwyol ac wedi rhoi tawelwch meddwl mawr i mi nad oes rhaid i ni ddioddef ymddygiad gwael pan fydd yn codi. Mae hynny'n golygu llawer.” Dioddefwr Trosedd Casineb Homoffobig
Cymorth Ymarferol
Gall bod yn ddioddefwr troseddau Casineb arwain at bob math o broblemau ymarferol yn ogystal â'r effaith emosiynol a chronnol.
Gallwn helpu gyda thasgau megis darparu diogelwch ychwanegol i'ch cartref, eirioli gyda'r heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol, gweithio gyda phartneriaid tai i helpu gydag ailgartrefu neu gymorth ychwanegol yn ystod eich treial.
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall eich opsiynau a'r camau nesaf.
Os oes angen help arnoch nad ydym yn credu y gallwn ei ddarparu ein hunain, gallwn gysylltu ag asiantaethau eraill i chi gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
“Does gen i ddim byd ond canmoliaeth i VS. Fe wnaethoch chi fy helpu i ysgrifennu fy natganiad Effaith Dioddefwr a hebddo, nid ydw i’n credu y byddai'r troseddwr wedi ei gael yn euog.” Dioddefwr Trosedd Casineb Anabledd
Rydyn ni yma i helpu unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan droseddau Casineb, nid yn unig y rhai sy'n ei brofi'n uniongyrchol, ond hefyd eu ffrindiau, eu teulu ac unrhyw bobl eraill sy'n gysylltiedig. Nid oes ots pryd na ble y digwyddodd y drosedd Casineb, neu os ydych wedi adrodd am y drosedd i'r heddlu ai peidio - gallwch gael ein cefnogaeth ar unrhyw adeg.
Gallwch ein ffonio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.
Beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cysylltu â ni?
Pan fyddwch yn ffonio 0300 3031 982 byddwch yn siarad ag aelod o'r tîm a fydd yn gwrando ar eich rhesymau dros alw ac yn asesu sut y gallwn helpu. Os ydych wedi anfon e-bost atom yna byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 48 awr. Os oes angen cymorth parhaus arnoch, byddant yn dyrannu'ch achos i weithiwr achos troseddau casineb arbenigol yn eich ardal leol.