
Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, 2023 yng Nghymru
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn wythnos genedlaethol o weithredu i annog cymunedau y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, awdurdodau lleol, heddluoedd a phartneriaid allweddol eraill i gydweithio i fynd i’r afael â materion troseddau casineb lleol.
Gwerth craidd yr wythnos yw sefyll mewn undod â’r rhai y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, cofio’r rhai yr ydym wedi’u colli, a chefnogi’r rhai y mae angen cymorth parhaus arnynt.
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, rhwng 14 – 21 Hydref 2023
Thema Cymru eleni yw #CymruYnghyd
Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn cefnogi gweithgarwch ledled Cymru yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.
Gallwch weld Cylchlythyr/Calendr o ddigwyddiadau HCAW a’n pecyn partneriaid newydd sbon yma: