
Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, 2026 yng Nghymru
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn wythnos genedlaethol o weithredu i annog cymunedau y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, awdurdodau lleol, heddluoedd a phartneriaid allweddol eraill i gydweithio i fynd i’r afael â materion troseddau casineb lleol.
Gwerth craidd yr wythnos yw sefyll mewn undod â’r rhai y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, cofio’r rhai yr ydym wedi’u colli, a chefnogi’r rhai y mae angen cymorth parhaus arnynt.
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb rhwng 10-17 Hydref 2026
Thema Cymru eleni yw Troseddau Casineb Hiliol.
Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn cefnogi gweithgarwch ledled Cymru yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.
Gallwch gael mynediad at Gylchlythyr HCAW a'n pecyn partner newydd sbon yma:

