Anabledd
Mae Troseddau Casineb Anabledd yn digwydd pan fydd rhywun yn cael ei dargedu oherwydd bod ganddo anabledd.
Gallai hyn fod oherwydd unrhyw un o'r canlynol:
- Anableddau corfforol, gan gynnwys nam ar y golwg a'r clyw
- Anableddau dysgu
- Cyflyrau Iechyd Meddwl
- Cyflyrau niwro-ymyrraeth, gan gynnwys awtistiaeth, ADHD a dyslecsia
Trosedd Cyfaill
Mae Trosedd Cyfaill yn digwydd pan fydd rhywun yn cyfeillio â dioddefwr i fanteisio arnynt.
Gall hyn gynnwys adnoddau ffisegol megis bwyd ac arian, neu gam-drin neu ymosod rhywiol.
Gall hyn greu sefyllfa gymhleth oherwydd gallai rhywun fod ag ofn colli'r cyfeillgarwch neu efallai ei fod yn poeni am fod yn unig.
Gall dioddefwyr Troseddau Casineb Anabledd wynebu rhwystrau ychwanegol ar ôl profi'r digwyddiad megis:
Normaleiddio'r hyn sydd wedi digwydd
Os bydd troseddau casineb yn digwydd yn aml yna gall pobl ei ‘normaleiddio’ a’i briodoli i brofiad disgwyliedig bob dydd.
Diffyg ymwybyddiaeth o beth yw Trosedd Casineb
Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o beth yw Trosedd Casineb, a sut y gellid diffinio’r cam-drin, bwlio, gelyniaeth neu ragfarn y maent wedi'i ddioddef fel trosedd.
Mae’n bosib na fydd pobl sydd wedi profi troseddau casineb anabledd yn sylweddoli y byddai anffurfiad, megis anaf llosgi, neu bobl â chyflwr iechyd meddwl hefyd yn cael ei gyfrif o fewn y grwpiau gwarchodedig o ddeddfwriaeth troseddau casineb.
Cyrchu Gwasanaethau
Mae’n bosib y bydd rhwystrau cyfathrebu neu hygyrchedd a allai ei gwneud yn anoddach i bobl adrodd am droseddau casineb a chyrchu cymorth.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cymryd pob cam posib i ddiwallu unrhyw anghenion hygyrchedd gan gynnwys gweithio gyda chyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain a darparu adnoddau mewn fformatau Hawdd i'w Darllen.
Mae’n bosib y bydd rhai pobl yn ei chael hi'n anodd nodi ac egluro beth ddigwyddodd iddynt fel Trosedd Casineb ac felly maent yn llai tebygol o fod â'r hyder i adrodd amdano neu gyrchu cymorth.
Ofn
Gall dioddefwyr anabl sydd â threfniadau byw'n annibynnol/byw â chymorth deimlo'n ofnus y gallai eu hannibyniaeth gael ei effeithio os ydynt yn adrodd am drosedd casineb.
Mae’n bosib y byddant hefyd yn ofni dial cymdogion os bydd y drosedd casineb yn digwydd yn eu cymdogaeth.
Os ydych yn poeni am adrodd am Drosedd Casineb gallwch siarad â Chymorth i Ddioddefwyr yn gyntaf a all wrando arnoch a siarad â chi am eich opsiynau.