Tueddfryd Rhywiol

Mae Troseddau Casineb Tueddfryd Rhywiol, neu a elwir weithiau’n Droseddau Casineb Homoffobig, yn digwydd pan fydd rhywun yn cael ei dargedu oherwydd ei dueddfryd rhywiol.

Gallai hyn fod oherwydd eich bod chi'n uniaethu fel hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu unrhyw dueddfryd rhywiol arall.

Gall dioddefwyr Troseddau Casineb Tueddfryd Rhywiol wynebu rhwystrau ychwanegol ar ôl profi'r digwyddiad megis:

Normaleiddio Digwyddiadau

Os bydd troseddau casineb yn digwydd yn aml yna gall pobl ei ‘normaleiddio’ a’i briodoli i brofiad disgwyliedig bob dydd.


Ofn

Mae’n bosib y bydd pobl LGB+ yn poeni am gael eu ‘datgelu’ gan yr heddlu os ydynt yn adrodd am droseddau casineb homoffobig/deuffobig.

Hyd yn oed os ydynt ‘allan’ i deulu a ffrindiau, mae’n bosib eu bod nhw'n ofni y bydd ei hunaniaeth yn cael ei ddatgelu i'r gymuned ehangach.

Mae’n bosib y bydd rhai pobl yn ofni i'r sefyllfa waethygu os penderfynant adrodd.


Diffyg Ymddiriedaeth yn yr Heddlu ac Asiantaethau Cyfiawnder Troseddol

Oherwydd hanes o densiynau a rhagfarn, ac er gwaethaf gwelliannau modern mewn hyfforddiant ac amrywiaeth, mae rhai grwpiau LGB+ yn ofni na fyddant yn cael eu cymryd o ddifrif neu byddant yn cael eu hystyried yn gwastraffu amser yr heddlu.


Diffyg ymwybyddiaeth o beth yw Trosedd Casineb

Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o beth yw Trosedd Casineb, a sut y gellid diffinio’r cam-drin, bwlio, gelyniaeth neu ragfarn y maent wedi'i ddioddef fel trosedd.

Os ydych chi'n poeni am adrodd am Drosedd Casineb gallwch siarad â Chymorth i Ddioddefwyr yn gyntaf a all wrando a siarad â chi am eich opsiynau.

Gallwch ddewis parhau i fod yn anhysbys ac ni fydd yn rhaid i chi roi unrhyw fanylion personol os nad ydych chi'n teimlo'n gyffyrddus.

Cael cymorth

Mae ein cymorth a'n cefnogaeth yn rhad ac am ddim, yn annibynnol ac yn gyfrinachol ac nid oes angen i chi fod wedi adrodd unrhyw beth i'r heddlu.

Adrodd am drosedd casineb i ni

Gallwch adrodd am Droseddau Casineb yn uniongyrchol i'n staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig. Mae am ddim, yn gyfrinachol a gallwch chi adrodd ar-lein neu dros y ffôn.