Hunaniaeth Drawsryweddol
Mae Troseddau Casineb Trawsryweddol, neu a elwir weithiau’n Droseddau Casineb Trawsffobig, yn digwydd pan fydd rhywun yn cael ei dargedu oherwydd ei Hunaniaeth Drawsryweddol.
Mae Trawsryweddol yn derm ymbarél a ddefnyddir ar gyfer unrhyw un sydd â hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd sy'n wahanol i'r rhyw y cafodd ei aseinio adeg ei eni.
Gall hyn gynnwys pobl nad ydyn nhw'n uniaethu ag unrhyw rywedd, a elwir hefyd yn anneuaidd.
Gall dioddefwyr Troseddau Casineb Hunaniaeth Drawsryweddol wynebu rhwystrau ychwanegol ar ôl profi'r digwyddiad megis:
Normaleiddio Digwyddiadau
Os bydd troseddau casineb yn digwydd yn aml yna gall pobl ei ‘normaleiddio’ a’i briodoli i brofiad disgwyliedig bob dydd.
Ofn
Mae’n bosib y bydd pobl Trawsryweddol yn poeni am gael eu ‘datgelu’ gan yr heddlu os ydynt yn adrodd am droseddau casineb trawsffobig.
Hyd yn oed os ydynt ‘allan’ i deulu a ffrindiau, mae’n bosib eu bod nhw'n ofni y bydd ei hunaniaeth yn cael ei ddatgelu i'r gymuned ehangach.
Mae’n bosib y bydd rhai pobl yn ofni i'r sefyllfa waethygu os penderfynant adrodd.
Diffyg Ymddiriedaeth ac Ymwybyddiaeth mewn Gwasanaethau
Mae’n bosib y bydd pobl drawsryweddol yn poeni am orfod egluro eu hunaniaeth rhywedd i weithwyr proffesiynol.
Mae’n bosib eu bod yn poeni am eu dogfennau e.e. trwydded yrru ddim yn cyfateb i’w henw a’u hunaniaeth rhywedd, yn poeni am gael eu camryweddu, yn poeni am gael eu ‘marw-enwi’ a gweithwyr proffesiynol ddim yn defnyddio eu rhagenwau cywir.
Mae'n bosib y bydd pobl sydd â hunaniaeth anneuaidd neu ryweddhylifol yn anghyfforddus wrth gael eu gofyn am eu manylion, yn enwedig os nad oes gan y sefydliad dewisiadau digonol ar gyfer cofnodi rhywedd.
Mae’n bosib y bydd pobl drawsryweddol yn amharod i adrodd i'r Heddlu oherwydd hanes o densiynau a rhagfarn.
Er gwaethaf gwelliannau modern mewn hyfforddiant ac amrywiaeth, mae’n bosib y bydd rhai pobl Drawsryweddol yn ofni na fyddant yn cael eu cymryd o ddifrif neu y byddant yn cael eu hystyried yn gwastraffu amser yr heddlu.
Diffyg ymwybyddiaeth o beth yw Trosedd Casineb
Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o beth yw Trosedd Casineb, a sut y gellid diffinio’r cam-drin, bwlio, gelyniaeth neu ragfarn y maent wedi'i ddioddef fel trosedd.
Os ydych chi'n poeni am adrodd am Drosedd Casineb gallwch siarad â Chymorth i Ddioddefwyr yn gyntaf a all wrando a siarad â chi am eich opsiynau.
Gallwch ddewis parhau i fod yn anhysbys ac ni fydd yn rhaid i chi roi unrhyw fanylion personol os nad ydych chi'n teimlo'n gyffyrddus.