Beth yw troseddau casineb?
Mae troseddau casineb yn drosedd a gyflawnwyd yn erbyn rhywun oherwydd eu:
- Hil;
- Crefydd;
- Tueddfryd Rhywiol;
- Anabledd;
- Hunaniaeth Drawsryweddol
Gelwir y rhain yn nodweddion gwarchodedig. Gallwch brofi troseddau casineb yn seiliedig ar un neu fwy o'r uchod, neu os tybiwyd bod gennych un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig hyn.
Effaith Troseddau Casineb
Os ydych wedi dioddef trosedd casineb, efallai y byddwch chi’n teimlo llawer o emosiynau nad ydych yn siŵr sut i ddelio â nhw.
Gallai’r rhain fod yn:
Emosiynol – Crio afreolus, cynnwrf, aflonyddwch, cywilydd, ofn, hunllefau, diffyg teimlad, euogrwydd, rhwystredigaeth ac anobaith
Ymddygiadol – dirywiad mewn perthnasau personol, gwyliadwrusrwydd paranoiaidd, osgoad, unigedd, gwahaniad a cholli hunaniaeth
Efallai hefyd y bydd gennych anafiadau corfforol neu golledion ariannol o ganlyniad i’r drosedd. Er enghraifft, efallai y bu ymosodiad, neu efallai bod eich eiddo wedi cael ei niweidio.
Cysylltwch â ni
Sgwrsio Byw
Bellach mae gennym gyfleuster sgwrsio byw ar gael ar ein prif wefan. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Riportio trosedd gasineb
Gallwch riportio troseddau casineb yn uniongyrchol i'n staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Mae am ddim, yn gyfrinachol, a gallwch chi riportio ar-lein neu dros y ffôn.
Mewn argyfwng dylech gysylltu â'r Heddlu bob amser ar 999.Os nad yw’n argyfwng, gallwch gysylltu â'ch heddlu lleol ar 101.