Gwirfoddoli
Pa sgiliau sydd eu hangen arnaf?
Nid oes angen unrhyw gymwysterau neu brofiad penodol arnoch chi. Fodd bynnag, bydd angen y rhinweddau a’r sgiliau pwysig canlynol arnoch:
- Sgiliau gwrando da
- Ymddwyn heb farnu a bod â meddwl agored
- Ymrwymiad i gyfrinachedd
- Diddordeb mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Hyblygrwydd
Beth gallwn ni ei gynnig i chi
Mae gwirfoddoli gyda Chymorth i Ddioddefwyr yn wobrwyol ac yn foddhaol iawn; fe gewch gyfle i roi cymorth ymarferol ac emosiynol i bobl i’w helpu i oresgyn adeg ofidus yn eu bywyd. Fel gwirfoddolwr, byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant arbenigol, cefnogaeth barhaus a datblygiad personol a phroffesiynol.
If you are interested in volunteering please email Hate.CrimeWales@victimsupport.org.uk
Gwirfoddolwr Cymorth Troseddau Casineb
Gwirfoddolwyr i ddarparu cymorth emosiynol dros y ffôn neu wyneb yn wyneb i ddioddefwyr troseddau casineb.
Gwirfoddolwr Ymgysylltu â’r Gymuned Troseddau Casineb
Gwirfoddolwr i ymgysylltu â’r gymuned leol i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb. Gall hyn gynnwys mynychu digwyddiadau, cynnal stondinau, dosbarthu taflenni a bod yn weladwy yn y gymuned.
Hyrwyddwyr Troseddau Casineb
Mae Hyrwyddwyr Troseddau Casineb yn bwynt cyswllt o fewn eu cymunedau i hyrwyddo ymgysylltiad cadarnhaol â gwasanaethau, annog adrodd am droseddau casineb a digwyddiadau casineb a helpu pobl i gael cymorth.