Siarter Troseddau Casineb Victim Support
Siarter Troseddau Casineb Victim Support
Byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn cydnabod yr effaith mae’r Drosedd Casineb wedi’i chael arnoch chi. Byddwn yn gwneud hyn p’un a ydych am adrodd am ddigwyddiad i’r Heddlu ai peidio.
Yr Hawl i Adrodd am Droseddau Casineb
Byddwn yn eich helpu i adrodd am y Trosedd Casineb i’r heddlu, naill ai’n uniongyrchol neu drwy Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth Victim Support, lle gallwch aros yn anhysbys. Byddwn yn cofnodi’r elfen gasineb fel y ffactor ysgogol i’r Heddlu neu Victim Support.
Yr Hawl i Gymorth Am Ddim a Chyfrinachol
Byddwn yn darparu arweiniad ar fanteisio ar gymorth am ddim a chyfrinachol gan Victim Support sydd wedi’i deilwra i chi a’ch anghenion. Byddwn yn eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol eraill os bydd angen gan sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth i’ch helpu i ymdopi ac adfer o effaith Troseddau Casineb.
Yr Hawl i gael eich Trin â Pharch
Byddwn yn eich trin â pharch ac fel unigolyn yn eich rhinwedd eich hun.
Byddwn yn dathlu amrywiaeth a chynhwysiant yn ein sefydliad a’r cymunedau rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Yr Hawl i Breifatrwydd
Byddwn yn sicrhau bod eich data yn cael eu cadw’n ddiogel ac na fyddant yn cael eu rhannu ag unrhyw un heb eich caniatâd. Mae gennych yr hawl bob amser i ofyn am unrhyw ddata sydd gennym amdanoch, neu ofyn iddynt gael eu dileu o’n cofnodion gan gydymffurfio â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Yr Hawl i Wybodaeth
Byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth am droseddau casineb a chymorth ar gael i chi mewn ffordd y gallwch ei deall. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb.
Yr Hawl i Wneud Cwyn
Byddwn yn darparu arweiniad ar sut i wneud cwyn os nad ydych yn hapus bod eich hawliau wedi’u bodloni.