Adrodd am Drosedd Casineb
Yr Heddlu
Gall dioddefwyr neu dystion trosedd casineb adrodd yn uniongyrchol i’r heddlu.
Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 neu 101 os nad yw’n argyfwng.
Adrodd Trydydd Parti
Mae adroddiad trydydd parti yn adroddiad am ddigwyddiad a wnaed ar ran dioddefwr neu dyst. Gallwn adrodd y digwyddiad i’r heddlu ar eich rhan, a pharhau i gysylltu â’r heddlu os oes angen. Gallwch gyflwyno ffurflen adrodd ar-lein atom isod neu roi manylion y digwyddiad i ni dros y ffôn neu ar e-bost.
Ffurflen Adrodd Gyfrinachol
Ffurflen Adrodd Ar-lein
Ffurflen Lawrlwytho
Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen ac yna e-bostiwch y ffurflen wedi’i chwblhau i hatecrimewales@victimsupport.org.uk
Hysbysiad Prosesu Teg Cymorth i Ddioddefwyr
O dan ofynion diogelu data, mae’n ofynnol i Gymorth i Ddioddefwyr eich hysbysu chi sut y byddwn yn prosesu unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi ar sail cyflawni tasg gyhoeddus wrth ddarparu gwasanaethau i ddioddefwyr a thystion troseddau. Gall yr wybodaeth fod amdanoch chi ynghyd â manylion y drosedd ac unrhyw gefnogaeth a roddwn i chi. Mae Cymorth i Dioddefwyr yn defnyddio’ch gwybodaeth i helpu i ddatblygu unrhyw gefnogaeth yr ydym wedi cytuno â chi. Fel rheol, dim ond pan fydd Cymorth i Ddioddefwyr yn cael caniatâd i wneud hynny y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rannu a lle mae hyn yn berthnasol i unrhyw gefnogaeth yr ydym wedi cytuno â chi, oni bai ein bod yn credu eich bod chi chi neu rywun arall mewn perygl o niwed sylweddol. Ni chaiff yr wybodaeth ei chadw yn hirach na bod ei hangen at y dibenion y prosesir yr wybodaeth. Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu gwybodaeth amdanoch chi. I gael mwy o wybodaeth am hyn, cysylltwch â www.victimsupport.org.uk/yourdata